Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
30 Mehefin 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12320
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 7 ac 8 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Atebwyd cwestiwn 3 gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Dechreuodd yr eitem am 14.20
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.12 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
Dechreuodd yr eitem am 15.21
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn.
4 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.46
Gofyn i’r Gweinidog Newid Hinsawdd:
Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar bolisi dadfeddiannu Llywodraeth Cymru?
Gofyn i Weinidog y Gymraeg ac Addysg:
Laura Anne Jones (Dwyrain De Cymru): Yn sgil sylwadau a wnaed gan y Gweinidog mewn sesiwn friffio i'r wasg ar y coronafeirws ddydd Llun, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru i weithredu eu rheolau diogelwch COVID-19 eu hunain yn y tymor nesaf?
5 Datganiadau 90 eiliad
Dechreuodd yr eitem am 16.06
Gwnaeth Vikki Howells (Cwm Cynon) ddatganiad am: Cofio trychineb Glofa’r Albion.
Gwnaeth Sioned Williams (Gorllewin De Cymru) ddatganiad am: Tennis Castell-nedd – cydnabyddir gan wobrau blynyddol y Gymdeithas Tennis Lawnt fel un o’r Prosiectau Tennis Cymunedol gorau yn y DU.
Gwnaeth Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) ddatganiad am: Capel Bryn Seion yn Ystrad Mynach – bydd yn cau a chynhelir ei wasanaeth olaf ddydd Sul.
Cynnig i ethol Aelodau i'r Pwyllgor Cyllid
Dechreuodd yr eitem am 16.10
NDM7746 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
1. Rhianon Passmore (Llafur Cymru), Alun Davies (Llafur Cymru), a Peter Fox (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o’r Pwyllgor Cyllid.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar ddull sy'n seiliedig ar hawliau ar gyfer gwasanaethau i bobl hŷn
Dechreuodd yr eitem am 16.11
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7713 Gareth Davies (Dyffryn Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n ymgorffori dull sy'n seiliedig ar hawliau wrth ddatblygu, cynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus sy'n effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn wrth wneud penderfyniadau a allai effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru;
b) ymestyn y ddyletswydd sylw dyledus i awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol ac awdurdodau cyhoeddus eraill yng Nghymru;
c) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn ymhlith pobl hŷn ac awdurdodau cyhoeddus Cymru;
d) ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Comisiynydd Pobl Hŷn, pobl hŷn a rhanddeiliaid perthnasol eraill cyn gwneud neu ddiwygio'r cynllun hawliau pobl hŷn; ac
e) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau cyhoeddus Cymru.
Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn (Saesneg yn unig)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
17 |
7 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 16.31 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.
7 Dadl Plaid Cymru: Hinsawdd a bioamrywiaeth
Dechreuodd yr eitem am 16.43
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7725 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi datganiad y Senedd o argyfwng hinsawdd yn 2019.
2. Yn nodi y bydd 15fed cyfarfod Cynhadledd y Partïon (COP15) i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD) yn cyfarfod yr hydref hwn i gytuno ar fframwaith bioamrywiaeth byd-eang.
3. Yn credu y dylid sicrhau cydraddoldeb rhwng y camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'r rhai a gymerir i fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth.
4. Yn cydnabod yr angen i gau'r bwlch llywodraethu amgylcheddol a grëwyd drwy adael yr UE.
5. Yn datgan argyfwng natur.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyflwyno gofyniad sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol;
b) deddfu i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol i Gymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
13 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
8 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.48
9 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.50
NDM7743 James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Effaith rheoliadau ffosffad Cyfoeth Naturiol Cymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.09
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 6 Gorffennaf 2021